P’run ai eich bod yn arddel y ffyd Gristnogol neu beidio, enw cyfarwydd i ni fel Cymry yw William Williams, Pantycelyn. Fe’i ystyrir yn fardd rhamantaidd cyntaf Ewrop, yn ddiwygiwr carismatig fu’n un o arweinwyr Diwygiad Methodistaidd y ddeunawfed ganrif gyda Daniel Rowland a Howel Harris, yn awdur ac yn emynydd eithriadol o doreithiog. Er nad ef oedd y cyntaf i sgrifennu emynau yn ein hiaith, meddyliwn amdano fel tad yr emyn cynulleidfaol Cymraeg. Yn ei waith yn cyfansoddi cannoedd o emynau (oddeutu 1000 mae’n debyg), rhoddodd batrwm i eraill ei ddilyn. Er i wres diwygiadau’r ddeunawfed ganrif (a’r diwygiadau a’u dilynodd) oeri, mae canu o hyd ar emynau Pantycelyn. Mae’n nhw i’w clywed mewn oedfaon ar y Sul, ac anaml y cynhelir cymanfa ganu heb o leiaf un o’i emynau. Ond fel y dengys yr amrywiaeth sy’n y CD hwn, mae apêl ei emynau yn mynd y tu hwnt i waliau’r capel a’r eglwys.
William Williams (“Pantycelyn”) is one of Wales’ most remarkable literary figures. Known primarily for his hymns in the Welsh language – of which he wrote almost 1000 – he is primarily known as one of the great Methodist revivalists of the 18th century in Wales, and the foremost hymn-writer of that movement which has had a lasting influence on the religious and cultural life of his country.
Gwyn a Gwridog, Hawddgar Iawn - Côr y Brythoniaid
Disgyn Iesu o’th Gynteddoedd - Aled Wyn Davies
O Nefol Addfwyn Oen - Côr Rhuthun
Mi Dafla Maich Oddi ar Fy Ngwar - Cymanfa Corau Unedig Ynys Môn
Arglwydd, Arwain Trwy'r Anialwch - Mary Lloyd-Davies
Yn Eden, Cofiaf Hynny Fyth - Cantorion Colin Jones
Iesu, Iesu, Rwyt ti'n Ddigon - Côr Seiriol
Cysur i Gyd, Y - D. Eifion Thomas
Dechrau Canu, Dechrau Canmol - Côr Meibion Dyfnant
Dacw'r Ardal, Dacw'r Hafan - David Lloyd
Gwaed dy Groes - Côr Meibion Pontarddulais
Pererin Wyf - Iris Williams a'r Canolwyr
Atat, Arglwydd, Trof fy Wyneb - Cantorion Creigiau
Tyred, Iesu, i'r Anialwch - Stuart Burrows
Marchog, Iesu, yn Llwyddiannus - Côr Meibion Mynydd Mawr
O Llefara Addfwyn Iesu - Côr Merched Glyndŵr
Heddiw'r Ffynnon a Agorwyd - Richie Tomos
Dros Bechadur Buost Farw - Côr Meibion Cymry Llundain
Ffordd Newydd Wnaed gan Iesu Grist - Côr Penyberth
Ni Fuasai Gennyf Obaith - Lleuwen Steffan