Mae'r Gymanfa a'r recordiad dilynol wedi bod yn gyfrifol am godi arian tuag at elusen. Trefnwyd a chydlynwyd y Gymanfa gan Ronw James, Caerfyrddin. Cadeirydd y Gymanfa - J. Ronald Jones, Ysw., CVO, QPM. Cynhaliwyd y Gymanfa ar ddydd Sul 21 Hydref 1976 a'i recordio gan Ken Davies.
Adlewyrcha'r CD hwn enghraifft arall o dalentau niferus ac amrywiol Ryan. Am unwaith mae Ryan yn gadael i'r gynulleidfa fod yn berfformwyr, ond yn eu hatgoffa mai ef sydd wrth y llyw! Mae recordiad o achlysur mor gofiadwy yn gadael i ni fwynhau'r emynau mawrion Cymreig a berfformiwyd yn y Gymanfa draddodiadol hon ac i ryfeddu at enhraifft arall o amrywiol ddoniau Ryan. O fewn ychydig fisoedd i'r digwyddiad hwn, ymgymerodd â'r daith dyngedfennol honno i U.D.A. Label: Black Mountains Records
Gymanfa Ganu led by much-loved singer / actor Ryan Davies, recorded live in1976.
Aberystwyth
Builth
Clawdd Madog
Crimond
Godre’r Coed
Maes-Gwyn
Mawlgan
Nes i Dre
Pantyfedwen
Pembroke
Rhyd-y-Groes